Cymraeg

Cymraeg

Mae cwmni Winding Snake â’i gartref yng Nghaerdydd ac mae aelodau o’n tîm yn dod o ystod o genhedloedd a rhanbarthau Prydeinig. Rydym yn cydnabod amrywiaeth diwylliant Cymru ac yn parchu pwysigrwydd cyfathrebu a hyrwyddo gweithgarwch diwylliannol drwy gyfrwng y Gymraeg. Ar hyn o bryd nid yw’r un o’n tîm yn medru Cymraeg. Wedi dweud hynny, mae gennym hanes cryf o ddarparu prosiectau drwy gyfrwng y Gymraeg o ganlyniad i greu timau priodol ar gyfer prosiectau penodol. Felly cysylltwch â ni er mwyn trafod eich gofynion ar gyfer unrhyw brosiect Cymraeg.